Gwaharddiadau: Ymateb i'r newidiadau dan Ddeddf Caffael 2023

Mewn erthygl flaenorol, gwnaethom archwilio’r newidiadau sydd ar y gweill i wahardd cynigwyr o gontractau yn Neddf Caffael 2023 (y Ddeddf). Mae’r erthygl hon yn archwilio rhai goblygiadau ymarferol i awdurdodau contractio a chamau i awdurdodau contractio eu cymryd mewn ymateb.

Bydd y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau contractio i roi gwybod am unrhyw broblemau sydd wedi arwain at atal cyflenwr o weithdrefn gaffael. Bydd rhestr waharddiadau ganolog yn cael ei chadw hefyd.

Cyfrinachedd

O ystyried y bydd yn ofynnol i awdurdodau contractio roi gwybod i’r Ysgrifennydd Gwladol am achosion o atal, bydd angen iddyn nhw sicrhau eu bod yn gallu cydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol, heb dorri unrhyw gytundeb gyda chynigwyr neu gyflenwyr.

Rhaid i awdurdodau contractio gynnwys darpariaethau yn eu dogfennau a chontractau caffael. Dylai’r darpariaethau hyn ganiatáu i ddatgeliadau gydymffurfio â deddfwriaeth caffael. Mae hyn yn angenrheidiol hyd yn oed os yw’r wybodaeth i fod i gael ei chadw’n gyfrinachol.

Efallai y bydd cyflenwyr yn sensitif am eu gwybodaeth gyfrinachol, a gallant ddisgwyl gweld darpariaethau cyfrinachedd mewn contractau cyhoeddus ond mae angen iddyn nhw dderbyn na fyddai hyn yn atal datgelu gwybodaeth pan mae hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith.

Dylai cymalau sy’n darparu ar gyfer hyn egluro’r amgylchiadau pan fydd angen datgelu, a dylent ei gwneud yn glir hefyd na fyddai rhwymedi ar gael i’r cyflenwr, pe bai ei wybodaeth yn cael ei datgelu yn unol â’r gofyniad cyfreithiol i wneud hynny.

Cyfyngu ar atebolrwydd

Bydd cyflwyno’r rhestr waharddiadau ganolog yn golygu y gallai achos posibl o atal arwain at ganlyniadau sylweddol iawn i’r darpar gyflenwyr ennill contractau cyhoeddus. Felly, dylai awdurdodau contractio ei gwneud yn glir yn eu prosesau caffael bod unrhyw gamau maen nhw’n eu cymryd i atal cyflenwr rhag gwneud cais a hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol, yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol. Hefyd, dylai awdurdodau contractio bwysleisio nad ydyn nhw’n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw gyfle a gollwyd neu niwed i enw da a allai godi o ganlyniad i hysbysiad, o dan y Ddeddf.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am waharddiadau, cysylltwch â Thîm Caffael Sector Cyhoeddus Geldards.

Like to talk about this Insight?

Get Insights in your inbox

Subscribe
To Top