Rheoliadau Caffael 2024: mae'r drefn newydd yn nesáu

Yn dilyn cryn weithgarwch diweddar yn ymwneud â gweithredu Deddf Caffael 2023 (y Ddeddf), gan gynnwys cyhoeddi dyddiad gweithredu sef 28 Hydref 2024, cyhoeddi rheoliadau a chanllawiau, a chyhoeddi datganiad polisi cenedlaethol, mae galw etholiad cyffredinol wedi creu rhywfaint o ansicrwydd dros dro am yr effaith ar y ddeddfwriaeth caffael newydd. Fodd bynnag, gwnaed Rheoliadau Caffael 2024, sy’n cyflwyno manylion i adeiladu ar ddarpariaethau yn y Ddeddf Gaffael cyn dirymu senedd San Steffan. Felly, er y gallai newid llywodraeth olygu y bydd newidiadau i’r ddeddfwriaeth hon yn y dyfodol, mae’n ymddangos yn debygol y bydd y Ddeddf yn dod i rym. Felly, dylai awdurdodau contractio barhau i wneud paratoadau i sicrhau eu bod nhw’n deall y drefn newydd ac yn barod amdani.

Mae darpariaethau allweddol Rheoliadau Caffael 2024 yn cynnwys:

  • Gofyniad i hysbysiadau gael eu cyhoeddi ar blatfform digidol canolog.
  • Manylion y wybodaeth sy’n rhaid ei chynnwys mewn hysbysiadau sy’n ofynnol dan y Ddeddf.
  • Manylion y categorïau o wasanaethau a fydd yn cael eu hystyried yn wasanaethau ‘cyffyrddiad ysgafn’ ac felly’n ddarostyngedig i’r drefn cyffyrddiad ysgafn.
  • Datgymhwyso Deddf Caffael 2023 i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Bydd hyn yn cael ei gwmpasu gan Reoliadau Gwasanaethau Gofal Iechyd (Trefn Dewis Darparwyr) 2023.
  • Darpariaethau am sut mae’r rheoliadau’n berthnasol mewn perthynas ag awdurdodau datganoledig Cymru ac awdurdodau datganoledig yr Alban.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi canllawiau ar sawl agwedd ar Ddeddf Caffael 2023:

  • Y diffiniad o awdurdod contractio. Mae hyn yn esbonio’r endidau sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf a’i is-ddeddfwriaeth a’r profion i’w defnyddio i benderfynu a yw endid o fewn y diffiniad.
  • Y diffiniad o gaffael dan sylw: Mae hyn yn cyfeirio at y diffiniadau o “gaffael” a “chaffael dan sylw” ac mae’n darparu esboniad er mwyn helpu awdurdodau contractio i ddeall pa gaffaeliadau sy’n uwch na’r trothwy heb esemptiad a pha ddarpariaethau sy’n berthnasol iddyn nhw.
  • Prisiad contractau: Mae hyn yn rhoi canllawiau ar amcangyfrif gwerthoedd contract at ddibenion asesu a yw’n uwch na’r trothwy ar gyfer cymhwyso’r ddeddfwriaeth, yn ogystal ag egluro darpariaethau gwrth-osgoi.
  • Caffael cymysg: Mae hyn yn rhoi arweiniad ar ddynodi contractau sy’n cynnwys cymysgedd o gategorïau o ofynion gwahanol.
  • Gofynion wedi’u heithrio: Mae’r canllawiau hyn yn esbonio’r darpariaethau i gaffaeliadau rhai contractau fod y tu allan i gymhwysiad y ddeddfwriaeth, gan gynnwys cyfeirio at eithrio oherwydd y berthynas rhwng partïon contractio ac eithrio oherwydd y pwnc.
  • Trothwyon: Mae hyn yn nodi manylion y trothwyon y mae gofynion y ddeddfwriaeth yn berthnasol iddynt.
  • Datganiad polisi caffael cenedlaethol: Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i’r Llywodraeth gyhoeddi datganiad i gyfathrebu amcanion polisi i awdurdodau contractio sy’n ymwneud â chaffael cyhoeddus. Rhaid i awdurdodau contractio roi sylw i ddatganiad o’r fath pan fyddant yn gwneud gwaith caffael. Mae’r canllawiau hyn yn rhoi rhywfaint o esboniad am y ddyletswydd. Mae datganiad polisi caffael cenedlaethol wedi’i osod gerbron Senedd San Steffan.
  • Hysbysiadau: Hysbysiad arfaethedig, hysbysiad caffael wedi’i gynllunio: Mae’r nodiadau cyfarwyddyd hyn yn rhoi arweiniad i awdurdodau contractio gyda drafftio a chyhoeddi hysbysiadau sy’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth gaffael newydd.
  • Manylebau technegol: Mae’r canllawiau hyn yn esbonio’r darpariaethau y mae’r Ddeddf yn eu gwneud mewn perthynas â manylebau technegol i sicrhau nad yw awdurdodau contractio yn defnyddio manylebau technegol i gyfyngu ar gystadleuaeth yn ddiangen. Mae’r canllawiau’n ystyried gofynion perfformiad a swyddogaethol, safonau, a gofynion ar gyfer tystysgrifau neu dystiolaeth arall.
  • Ymgysylltiad cychwynnol â’r farchnad: Mae hyn yn rhoi arweiniad ar ymgysylltiad rhagarweiniol â’r farchnad o dan y Ddeddf, gan gynnwys cyfeirio at benderfynu beth y gellid ei ystyried yn ymgysylltiad rhagarweiniol â’r farchnad, paratoi i gynnal ymgysylltiad cychwynnol â’r farchnad, sicrhau nad yw contractwyr yn cael mantais annheg, hysbysiadau ac ymgysylltiad rhagarweiniol ar y cyd â’r farchnad.
  • Darpariaethau trosiannol a threfniadau arbed: Mae’r canllawiau hyn yn rhoi manylion y rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol ac arbed ar gyfer caffael sy’n parhau pan ddaw’r Ddeddf i rym ac ar gyfer contractau a ddyfarnwyd dan ddeddfwriaeth flaenorol. Mae’r canllawiau’n dweud mai’r egwyddor sylfaenol yw bod yn rhaid i gaffaeliadau a gychwynnir ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym gael eu cynnal drwy gyfeirio at y Ddeddf yn unig a rhaid i’r rhai a gychwynnwyd o dan y ddeddfwriaeth flaenorol barhau i gael eu rheoli o dan y ddeddfwriaeth honno.

Mae’r camau y mae’n rhaid i awdurdodau contractio eu cymryd wrth baratoi ar gyfer y drefn gaffael newydd yn cynnwys:

  • Sicrhau bod unrhyw un sy’n ymwneud â chaffael yn gyfarwydd â gofynion y ddeddfwriaeth newydd, y canllawiau a’r datganiad polisi cenedlaethol.
  • Cael mynediad at adnoddau a’u defnyddio gyda’r nod o helpu gyda pharatoi ar gyfer y drefn newydd. Mae tîm Trawsnewid Caffael Cyhoeddus Swyddfa’r Cabinet wedi sicrhau bod adnoddau dysgu sylweddol ar gael.
  • Adolygu eu cyfansoddiadau, yn enwedig rheolau gweithdrefnau contractau, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gyfredol i adlewyrchu’r ddeddfwriaeth newydd a sut y bydd hyn yn cael ei gymhwyso yn eu hawdurdod.
  • Paratoi ar gyfer drafftio a chyhoeddi’r hysbysiadau a fydd yn ofynnol dan gamau gwahanol y drefn newydd.
  • Nodi gweithgarwch caffael presennol a disgwyliedig yn y dyfodol a phennu’r hyn fydd ei angen naill ai o dan y drefn newydd neu o dan ddeddfwriaeth flaenorol er mwyn cwblhau’r rhwymedigaethau hyn a threfnu’r contractau perthnasol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Thîm Sector Cyhoeddus Geldards.

Like to talk about this Insight?

Get Insights in your inbox

Subscribe
To Top